Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Ionawr 2013

 

 


Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12: Dyddiadau Cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.

2.    Mae’r adroddiad yn argymell newidiadau i Reol Sefydlog 12. Mae’r newidiadau y cytunodd y Pwyllgor Busnes arnynt i’w gweld yn Atodiad A, ac mae’r cynnig ar gyfer Rheol Sefydlog newydd i’w weld yn Atodiad B. 

Cefndir

3.    Yn ei gyfarfod ddydd Llun 7 Ionawr, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried y dewisiadau o ran newid system Cwestiynau Llafar y Cynulliad, gan anelu at ei gwneud yn ddull mwy effeithiol o graffu ar y Llywodraeth. Cytunodd y Pwyllgor i newid y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar i dri diwrnod gwaith o flaen llaw yn achos Cwestiynau i’r Prif Weinidog, a phum diwrnod gwaith yn achos Cwestiynau i Weinidogion.

4.    Yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr, bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod y mater hwn eto, a chytunodd â’r cynigion penodol a amlinellir yn y papur hwn.

Y darpariaethau presennol

5.    Rhaid i bob Cwestiwn Llafar gael ei gyflwyno o leiaf bump ond heb fod yn fwy na deg diwrnod gwaith cyn ei fod i gael ei ateb (Rheol Sefydlog 12.59) - o ganlyniad, pum diwrnod gwaith sydd ar gael i gyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad. Felly, y diwrnod cyntaf y caniateir cyflwyno cwestiynau yw deg diwrnod gwaith o flaen llaw.

6.    Rhaid i’r Llywydd gynnal balot er mwyn dethol enwau’r Aelodau y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau llafar o leiaf un diwrnod gwaith cyn y diwrnod cyntaf y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau (Rheol Sefydlog 12.62).

7.    Caiff trefn derfynol y cwestiynau ei phennu drwy hapddull ar y diwrnod cyntaf y caniateir iddynt gael eu cyflwyno (Rheol Sefydlog 12.64) (sef deg diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb) ac wedyn yn y drefn y deuant i law.  O ganlyniad, yn y mwyafrif o achosion caiff cwestiynau llafar eu cyflwyno deg diwrnod gwaith o flaen llaw.

Cynigion ar gyfer newid y drefn

8.    Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig bod cwestiynau llafar i’r Prif Weinidog yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, a bod pob cwestiwn llafar arall (Gweinidogion/Cwnsler Cyffredinol/y Comisiwn) yn cael eu cyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb. Y dyddiadau cau tri diwrnod a phum diwrnod fydd y diwrnodau olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau.

9.    Bydd y Llywydd yn cynnal y balot i ddethol enwau’r Aelodau y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau llafar o leiaf un diwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau.

10.Bydd trefn derfynol y cwestiynau yn cael ei phennu drwy hapddull ar y diwrnod olaf y caniateir iddynt gael eu cyflwyno (hynny yw, y dyddiadau cau newydd, sef 3 a 5 diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb).

11.Mewn gwirionedd, mae’r Swyddfa Gyflwyno yn cynnal pob balot ar fore dydd Llun, sy’n rhoi un diwrnod o rybudd i’r Aelodau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar i’r Prif Weinidog a dau ddiwrnod o rybudd yn achos pob cwestiwn arall. Ni fydd y newid arfaethedig i gysylltu’r balot o dan Reol Sefydlog 12.62 â’r diwrnod olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau yn cael effaith andwyol ar yr Aelodau.

12.Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn parhau i gynnal y balot ar fore dydd Llun, a bydd y dyddiad cau newydd ar gyfer cyflwyno cwestiynau yn peri bod gan yr Aelodau dri diwrnod o rybudd ar gyfer cyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog, a dau ddiwrnod o rybudd, fel o’r blaen, yn achos pob cwestiwn arall. Felly, bydd modd i’r Aelodau gyflwyno cwestiynau unrhyw adeg ar ôl cynnal y balot ar ddydd Llun tan yr amser cau (3.30 pm) ar ddydd Mercher / Iau.

Newid i’r arfer o ran cwestiynau agored

13.Bydd canolbwyntio’r gweithdrefnau ar y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno yn lleihau’r cyfnod pan fo modd cyflwyno cwestiynau; fodd bynnag, o’i gyfuno â’r dyddiadau cau newydd, bydd hyn yn ei gwneud yn haws cyflwyno cwestiynau mwy amserol.

14.Er mwyn gwrthbwyso’r cyfnodau byrrach o ran cyflwyno Cwestiynau Llafar, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai’r cwestiynau fod yn fwy penodol. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu y bydd y Swyddfa Gyflwyno (ar ran y Llywydd) â dull llymach wrth ystyried cwestiynau agored, a bydd yn disgwyl i’r hyn y mae cwestiwn yn canolbwyntio arno fod yn glir yng ngeiriad y cwestiwn. Bydd y dull newydd hwn yn cael ei ymgorffori yn y ddogfen Egwyddorion ac Arferion y Llywydd ar gyfer Cyflwyno a Gosod Busnes y Cynulliad, a fydd yn cael ei hailddosbarthu i’r Aelodau.

Penderfyniad

15.Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog ar 15 Ionawr, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo’r cynnig fel y’i nodir yn Atodiad B.



Atodiad A

STANDING ORDER 12

Oral Questions

12.59 Questions to the First Minister must be tabled at least three working days before they are to be answered; questions to Welsh Ministers, the Counsel General and the Commission must be tabled at least five, but not more than ten, working days before they are to be answered.

 

Revise this Standing Order

 

The SO is revised to provide for different tabling deadlines for Oral Questions to the First Minister and all other Oral Questions.

 

The change also removes reference to questions being tabled no more than 10 working days before they are to be answered. This will reduce the current ‘window’ for tabling OAQs, but will strengthen the approach to make questions more topical if tabled 3 and 5 working days in advance. This is linked to the change proposed to SO12.62 below.

 

12.60 Questions are accepted at the discretion of the Presiding Officer, who must have regard to any written guidance issued in accordance with Standing Order 6.17.

 

No change

12.61 The Presiding Officer must undertake a ballot to select the names of those Members who may table oral questions to the First Minister and Welsh Ministers.

 

No change

12.62 A ballot under Standing Order 12.61 must be conducted at least one working day before the firstlast day on which questions may be tabled.

 

Revise Standing Order

 

Currently, ballots under this Standing Order are conducted one working day before the first day on which questions can be tabled. The first day is currently the 10 working days in SO12.59, which we propose to remove (see proposed changes above).

 

Proposed changes to SO12.59 will remove reference to question being tabled no more than 10 working days in advance, and therefore there will be no ‘first day’ specified in Standing Orders, this Standing Orders therefore needs to be revised accordingly.

 

The proposed changes will require ballots under SO12.62 to be conducted one day before the last day on which question may be tabled (i.e. at least one day before the 3 and 5 working day deadline).

 

In practice Table Office will conduct all ballots on Monday morning providing Members with three days’ notice for tabling First Minister Questions and two days’ notice for all other questions.

 

12.63 Each Member may enter their names into the ballot under Standing Order 12.61 no more than twice for oral questions to a particular Welsh Minister and once for oral questions to the First Minister.

 

No change

12.63A Any Member may table oral questions to the Counsel General and the Commission.

 

No change

12.63B Each Member may table no more than two oral questions to the Counsel General, and one oral question to the Commission, for any week where they are answering questions.

 

No change

12.64 The order of oral questions must be determined as follows:

(i) for questions accepted before a deadline agreed by the Business Committee on the first day on which they may be tabled, by random means;

(ii) for questions accepted after the deadline agreed by the Business Committee on the first day on which they may be tabled, by the order in which they are received.

 

12.64 For questions accepted before a deadline agreed by the Business Committee, the order of questions must be determined by random means on the last day on which they may be tabled.

 

Replace this Standing Order

 

The current Standing Order 12.64 provides for how the final order of questions is determined. At present, the order is determined on the first day on which question may be tabled (i.e. 10 working days before).

 

Proposed changes to SO12.59 will remove reference to question being tabled no more than 10 working days in advance, and therefore there will be no ‘first day’ specified in Standing Orders, this Standing Orders therefore needs to be revised accordingly.

 

It is proposed that the order of question will be determined on the last day on which they may be tabled (i.e. the new 3 and 5 day deadlines).

 

 


16.    


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 12 BUSNES YN Y CYFARFODYDD LLAWN

 

Cwestiynau Llafar

 

12.59 Rhaid i gwestiynau i’r Prif Weinidog gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb; rhaid i gwestiynau i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a’r Comisiwn gael eu cyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb.

 

12.60 Derbynnir cwestiynau yn ôl disgresiwn y Llywydd, a rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

 

12.61 Rhaid i’r Llywydd gynnal balot er mwyn dethol enwau’r Aelodau y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion Cymru.

 

12.62 Rhaid cynnal balot o dan Reol Sefydlog 12.61 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau.

 

12.63 Ni chaiff Aelod gyflwyno ei enw i’r balot o dan Reol Sefydlog 12.61 fwy na dwywaith ar gyfer cwestiynau llafar i un o Weinidogion Cymru yn benodol ac unwaith ar gyfer cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru.

 

12.63A Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cwestiynau llafar i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Comisiwn.

 

12.63B Ni chaiff Aelod gyflwyno mwy na dau gwestiwn llafar i’r Cwnsler Cyffredinol, ac un cwestiwn llafar i’r Comisiwn, ar gyfer unrhyw wythnos y byddant yn ateb cwestiynau.

 

12.64 Yn achos cwestiynau a dderbynnir cyn yr amser cau y cytunir arno gan y Pwyllgor Busnes, rhaid penderfynu ar drefn cwestiynau drwy hapddull ar y diwrnod olaf y caniateir iddynt gael eu cyflwyno.